FalmaiJONESYn dawel yn ei chartref yn Penrhiw, Felinwen, Caerfyrddin ar Orffennaf 13eg, yn 83 mlwydd oed, hunodd Falmai, gynt o Cwmllife, Llansadwrn. Priod annwyl Den, mam a mam-yng-nghyfraith gariadus Arfon ac Alison, Gu hyfryd i Ben, Nia a Ffion a chwaer-yng-nghyfraith garedig i Bryan. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin ddydd Mercher Gorffennaf 24ain 2019 am 11.00 o'r gloch ac yna ym mynwent Capel Tabor, Llanwrda. Blodau'r teulu yn unig, neu os dymunir, derbynnir cyfraniadau er cof tuag at Dementia UK trwy law yr Ymgymerwyr Angladdau Glanmor D. Evans a'i Fab, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn 01267 241626
Keep me informed of updates